Skip to main content
April 22, 2016

Mae Uber ar gael yng Nghaerdydd

Kate Peregrine
Share this article

ENGLISH

Mae Caerdydd yn gartref i enwogion rygbi, cantorion o fri a nosweithiau i’w cofio sy’n gorffen yn Chippy Lane, ac o heddiw ymlaen, rydym yn falch o ddweud mai dyma ein cartref cyntaf yng Nghymru. O 4 o’r gloch heddiw, bydd pobl Caerdydd yn gallu defnyddio Uber gan wasgu botwm i gael gwasanaeth car.

Felly os ydych wedi bod yn cefnogi’r bechgyn yn y stadiwm, yn cael pryd o fwyd yn y bae neu wedi bod ar Heol Eglwys Fair, a bod angen car arnoch (mewn munud), gallwch wasgu botwm a chael taith ddibynadwy.


Newydd i Uber? Cewch £15 i ffwrdd oddi ar eich taith gyntaf trwy ddefnyddio’r cod*

CAERDYDD16


 

Tapiwch Promotions yn ap Uber ac ychwanegwch y cod i’w ddefnyddio’n awtomatig ar gyfer eich cyfrif.

Sut mae’n gweithio?

Lawrlwythwch Uber i’ch ffôn a chrëwch eich cyfrif

– Gosodwch y pin ar y map yn eich lleoliad presennol i ofyn am gar a gallwch olrhain pryd mae’n cyrraedd

– Defnyddiwch y teclyn ffioedd yn yr ap i weld beth fydd cost eich taith

Rhannwch eich ETA i adael iddyn nhw wybod gartref pryd y byddwch yn cyrraedd**

– Beth am rannu Uber gyda ffrindiau? Rhannwch y ffi i rannu’r gost a byddwch yn gwneud arbedion cynyddol

 

Felly, peidiwch ag oedi. Gofynnwch am ein gwasanaeth!

Bydd bag nwyddau yn y car yn disgwyl am y 200 o deithwyr cyntaf.***

Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod mwy o geir ar y ffyrdd – felly os na allwch chi gael car y tro cyntaf, daliwch i drio.

Os oes gennych adborth neu os ydych eisiau dweud wrthym beth sy’n digwydd, cysylltwch â ni drwy e-bostio supportUK@uber.com neu drwy neges drydar @UberUK.

*Ymwadiad

**Rhannwch fy neges destun ETA ar sail eich cyfradd arferol. Gall fod tâl bach ar y cerdyn i rannu’r ffi gyda phob unigolyn ychwanegol.

***Cyflenwad cyfyngedig, nid yw Uber yn sicrhau argaeledd ac nid yw’n atebol am unrhyw brinder bagiau nwyddau; mae Uber yn cadw’r hawl i ganslo neu derfynu’r cynnig, yn cynnwys rhoi bagiau nwyddau a hynny heb unrhyw fath o rybudd.

Category